|

Y Cartref
Home
Bar y Bwyty Bar
& Restaurant
Siop a Swyddra'r
Post Shop
& Post Office
Ymweliad Brenhinol Royal Visit
Y Clwb Classurol
Classic
Club
Taith y Tractor
Tractor Trek
Calendr
Calendar
Cwmdu Bus Timetable
Gwyl y Pentref
Village Fete
Diwrnod Afalau
Apple Day
Noson Werin
Folk Night
Countryside Alliance Award
Llyfr
Book
Pont
Bridge
Teithiau Bag Cwmdu
Travels of a Cwmdu Bag
Galeri
Gallery
Bythynnod Gwyliau Holiday
Cottages
| |
|
Radio Cymru

|
|
|
|
|
Hywel Gwynfryn yn Teithio
Mae Radio Cymru yn darlledu ar leoliad i raglenni Nia,
Eleri a Dafydd, Jonsi a Geraint Lloyd. Hefyd mae nhw yn chwilio am
dalentau lleol cerddorol er mwyn rhoi sylw yn genedlaethol i dalentau
lleol.
Os wyddoch chi am dalent fyddai yn swyno dros Gymru
gyfan yna cysylltwch a Hywel Gwynfryn drwy ei e bostio hywel@bbc.co.uk
Yn cymeryd rhan o Dafarn Gwmdu yn fyw ar 3ydd
Ebrill 2009 oed Hywel Jones yn son am hanes gorffenol y dafarn , hen
lluniau ar y mur a meter cydweithredol . Janet James yn son am amser
presennol h.y. beth sydd yn cymryd lle ar ty bwyta cymdeithas bob amser yn
cyd dynnu at eu gilydd. Jac Roberts o Ffald y Bugail ac ambell joc
fach.
I orffen y rhaglen sgwrs gan Conway Morgan pennaeth
cerdd yn Ysgol Tregib , hefyd eitem gan bedwarawd lleoll sydd wedi
bod yn fuddugol yn eisteddfod Urdd Sir Gaerfyrddin a sydd yn ddisgyblion
yn Ysgol Tregib . R'oedd amryw o pentrefwyr wedi tro i fyny yn y dafarn ,
i greu awyrgylch hapus yn y cefndir yn ystod y darllediad fyw .
|
|
----
Bu
Radio Cymru De Orllewin yn ymweld â chartref Hywel Jones yng Nghwmdu,
yn dilyn cais gan gynhyrchydd sioe Marc Griffiths. Gofynnodd a
fyddai’n bosib darlledu rhaglen foreol ar ddechrau mis Medi yn
ymwneud â’r ardd. Fel canlyniad fe ddaeth 13 o bobl ynghyd i
gartref Hywel a chafwyd rhaglen ddiddorol. Uchafbwyntiau’r rhaglen
oedd yr afalau a’r dahlias godidog yn yr ardd, er gwaethaf y tywydd
gwlyb. Ni ddylid anghofio
tractor 1948 Allis Chalmers Humphrey Edwards o Lanfynydd. Roedd
Marc wedi dotio gymaint ar y tractor, fe wnaeth ei yrru am ddwy
filltir wedi i’r rhaglen orffen. Rhoddodd Hywel hanes y
pentref,dangos yr afon Dulais, yn ogystal a pherllan a Teras Rhyd yr
Onnen.
Mae’n
drueni fod y rhaglen radio hon (Grav’s Radio) yn dod i ben ar
ddiwedd y mis, 26ain o Fedi , gan fod Radio Cymru yn mynd yn
genedlaethol.Gobeithio na fyddant yn esgeuluso ardaloedd fel De
orllewin Cymru a mannau pwysig arall. Carai Hywel ddiolch i bawb
a ddaeth i’w gefnogi,
ac i’r merched am baratoi lluniaeth
o frechdanau, cacennau a the.
Radio Cymru De Orllewin Marc
Griffiths daily morning program visited Hywel Jones at Ordawe to do
a 2 hour live program. This was in response to the BBC producer
suggestion after the last transmission from the Cwmdu Inn at end of
June this year. The program
featured on his beautiful garden especially the Dahlias.
Humphrey Edwards was one of the 13 local guests that turned up on
his1948 Allis Chalmers. Marc Griffiths took great interest in the
said tractor, and drove it around the village for a
while. Hywel wishes to thank everybody for turning up that morning
in order to make the program a success, especially the ladies who
prepared light refreshments to all guests throughout the
program. It is a very sad moment that this popular BBC waveband in
South West Wales comes to an end on 26 September 2008 which will be
replaced by a BBC Radio Cymru National transmission - with majority
of daily features centered around Cardiff and Bangor areas. We the
locals will certainly miss this waveband in the coming months, and
of course as a result Radio Cymru will loose listeners in De
Orllewin (South West Wales) and will revert to tune in to other
local radio transmissions .
|
|